Darlun o Harbwr Saundersfoot
Mae Harbwr Saundersfoot yn Sir Benfro heddiw wedi derbyn cyllid Ewropeaidd er mwyn ail-ddatblygu’r safle yn y bwriad o’i wneud yn atyniad twristaidd eiconig.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bod disgwyl y bydd y datblygiad yn creu 24 o swyddi newydd yn yr ardal.

Bydd yr harbwr yn elwa o £463,500 o’r Gronfa Ddatblygu Ewropeaidd, a fydd yn cyfrannu at gyfanswm y prosiect gwerth bron i £1 miliwn. Mae £200,000 hefyd wedi cael ei roi gan Gynllun Isadeiledd Twristiaeth.

Wrth gyhoeddi’r cyllid, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones y bydd gwella’r harbwr yn “codi proffil Saundersfoot”.

Ychwanegodd: “Rwyf yn falch o weld cynlluniau i wneud y mwyaf o dreftadaeth forwrol yr ardal, dwy ychwanegu llwybr treftadaeth o amgylch yr harbwr hefyd.