Ched Evans
Mae Ched Evans wedi ymddiheuro am y tro cyntaf ers iddo ei gael yn euog o dreisio merch mewn gwesty yn y Rhyl yn 2011, ond yn parhau i fynnu ei fod yn ddieuog.

Oriau wedi i glwb pêl-droed Oldham ddweud na fydd y clwb y cynnig cytundeb iddo, mae Evans wedi cyhoeddi datganiad lle mae’n “ymddiheuro am effeithiau’r noson honno yn Y Rhyl ar nifer o bobol, yn enwedig y ferch dan sylw.”

Mae’r Cymro 26 oed wedi cael ei feirniadu gan y wasg am beidio dangos edifeirwch am dreisio’r ferch 19 oed wedi iddo gael ei ryddhau o’r carchar ym mis Hydref 2014.

Roedd oddeutu 70,000 o bobol wedi arwyddo deiseb yn galw ar Oldham i beidio â’i arwyddo.

‘Ymddiheuro o waelod calon’

Mewn datganiad gafodd ei ryddhau ar ran y pêl-droediwr gan y Sefydliad Pêl-droedwyr Proffesiynol (PFA), mae’n dweud:

“Er fy mod yn parhau i fynnu mod i’n ddieuog, dw i am ei gwneud yn glir mod i yn ymddiheuro o waelod calon am effeithiau’r noson honno yn Y Rhyl ar nifer o bobol, yn enwedig y ferch dan sylw.

“Mae ’na honiadau bod y rhai sydd wedi bod yn camddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, ac yn dangos atgasedd tuag at y ferch, yn gefnogwyr i mi. Buaswn yn hoffi cadarnhau nad fy nghefnogwyr i yw’r rhain ac rwy’n condemnio eu gweithredoedd yn llwyr.

“Yn dilyn cyngor cyfreithiol, cefais wybod na ddylwn i drafod y digwyddiadau dan sylw. Mae’r distawrwydd yma wedi cael ei gam-ddehongli fel ymddygiad trahaus ac fe fuaswn yn hoffi datgan bod hyn yn bell iawn o’r gwir.”

Mae achos Evans wedi cael ei gyfeirio at y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol  (CCRC).