Bafetimbi Gomis
Mae adroddiadau’n awgrymu bod Crystal Palace yn awyddus i arwyddo ymosodwr yr Elyrch, Bafetimbi Gomis.

Mae Gomis yn cael ei ystyried yn ddewis naturiol i lenwi’r bwlch i Abertawe pe bai Wilfried Bony yn cwblhau ei drosglwyddiad i Man City yr wythnos hon.

Ond fe fyddai’r Ffrancwr hefyd yn cael ei ystyried yn ychwanegiad gwerthfawr at garfan rheolwr newydd Crystal Palace, Alan Pardew.

Prin fu cyfleoedd Gomis yn Abertawe y tymor hwn oherwydd polisi Garry Monk o chwarae un ymosodwr.

Ond fe allai Gomis ddarganfod ei hun fwyfwy ar y cae yn ystod y mis nesaf tra bod Bony i ffwrdd yn cynrychioli’r Côte d’Ivoire yng Nghwpan Gwledydd Affrica.

Mae disgwyl i’r Elyrch ofyn am oddeutu £9.25 miliwn am Gomis, a fyddai’n record newydd i Crystal Palace.

Roedd cadeirydd Crystal Palace Steve Parish yn y dorf yn gwylio Gomis yn arwain yr ymosod yn ystod buddugoliaeth yr Elyrch o 6-2 yn erbyn Tranmere yng Nghwpan yr FA yr wythnos diwethaf.

Mae Crystal Palace yn y safleoedd disgyn yn yr Uwch Gynghrair ar hyn o bryd.