Ched Evans
Mae Oldham Athletic wedi penderfynu peidio arwyddo ymosodwr Cymru, Ched Evans.
Roedd oddeutu 70,000 o bobol wedi arwyddo deiseb yn galw ar y clwb i roi’r gorau i’w bwriad i’w arwyddo, ac roedd y clwb wedi bod yn trafod y sefyllfa â’r Gymdeithas Bêl-Droed wedi i nifer o noddwyr ddweud na fydden nhw’n parhau i roi arian i Oldham pe baen nhw’n arwyddo Evans.
Cafodd Evans ei ryddhau o’r carchar ym mis Hydref yn dilyn cyfnod o ddwy flynedd a hanner dan glo am dreisio dynes mewn gwesty.
Roedd sôn y gallai Evans ymuno â Sheffield United, Hartlepool United neu Hibernians ym Melita.
Ond pan gyhoeddodd Oldham eu bwriad i drafod cytundeb ag Evans, tynnodd nifer o noddwyr blaenllaw allan o’r clwb.
Mae Oldham wedi cael eu beirniadu gan ymgyrchwyr yn erbyn trais.
‘Rhy hwyr’
Yn dilyn ymddiheuriad Ched Evans heddiw, dywedodd ymgyrchydd ar ran menywod sydd wedi cael eu treisio fod ei eiriau wedi dod yn “rhy hwyr”.
Dywedodd Jill Seward ar Radio 5 Live: “Mae’n annigonol ac yn rhy hwyr, mewn gwirionedd.
“Rwy’n credu bod y niwed wedi’i wneud eisoes ac mae niwed wedi’i wneud yn arbennig yn y tri mis ers iddo gael ei ryddhau.
“Rwy’n credu ei fod yn ddatganiad gwan sydd wedi cael ei roi at ei gilydd gan gyfreithwyr.
Ychwanegodd ei bod yn awyddus i weld ymddiheuriad ar wefan Ched Evans maes o law.
Yn y cyfamser, mae Comisiynydd Heddlu Greater Manchester, Tony Lloyd wedi dweud bod Oldham wedi gwneud y penderfyniad cywir i beidio arwyddo Evans.
“Tra ei bod yn briodol fod dadl ddifrifol wedi bod ynghylch y mater hwn, bydd pobol adain dde eu meddwl wedi’u siomi gan adroddiadau fod unigolion o fewn y clwb ac aelodau eu teuluoedd wedi cael eu bygwth.
“Rhaid i’r heddlu ymchwilio i’r fath adroddiadau.”