Mae Gleision Caerdydd wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi arwyddo canolwr Samoa Rey Lee-Lo o’r Hurricanes.
Bydd y canolwr 28 oed yn symud ar ddiwedd tymor y Super Rugby ac yn ail-ymuno â chyn-bennaeth yr Hurricanes, Mark Hammett.
Ymddangosodd Lee-Lo yng nghrys Samoa am y tro cyntaf y llynedd, ac roedd e yn y tîm a heriodd Lloegr yn Twickenhem ddeufis yn ôl.
Dywedodd cyfarwyddwr rygbi’r Gleision, Mark Hammett: “Mae Rey yn chwaraewr dw i’n ei nabod yn dda o’n dyddiau gyda’n gilydd yn yr Hurricanes a dw i’n sicr y bydd e’n gaffaeliad mawr i Gleision Caerdydd.
“Un o’r brif gryfderau yw ei fod e’n ddyn pwerus tra ei fod e hefyd yn symud yn dda ac yn chwarae ar gyflymdra uchel.
“Mae Rey wedi gwella bob tymor ac fe fydd e’n benderfynol o achub ar y cyfle yma gyda’r Gleision a bod yn llwyddiant mawr yng Nghymru.”