Mae Cyfarwyddwr Rygbi Picwns Llundain, Dai Young wedi arwyddo cytundeb a fydd yn ei gadw wrth y llyw tan 2019.

Cafodd Young ei benodi yn 2011 ar ôl bod yn gyfrifol am Gleision Caerdydd.

Enillodd Young 51 o gapiau dros Gymru a thri chap dros y Llewod.

Mae’r Picwns yn bedwerydd yn Uwch Gynghrair Aviva wedi iddyn nhw symud o Lundain i chwarae yn y Ricoh Arena yn Coventry.

Dywedodd Dai Young: “Rwy’n falch iawn o gael ymestyn fy nghytundeb ac rwy’n gyffrous am y garfan rydyn ni’n ei hadeiladu yma.

“Dydy bywyd byth yn ddiflas gyda’r Picwns, ac fe fu’n ‘rollercoaster’ yn ystod fy mhedair blynedd yma hyd yn hyn.”

Dywedodd ei fod yn gobeithio y gall y tîm fod ymhlith y pedwar uchaf yn Uwch Gynghrair Aviva yn ystod y tymhorau i ddod, a’i fod yn gobeithio cyhoeddi nifer o chwaraewyr newydd yn ystod yr wythnosau nesaf.

Yn dilyn y cyhoeddiad am gytundeb newydd Young, dywedodd Prif Weithredwr y Picwns, Nick Eastwood: “Ychydig iawn o gyfarwyddwyr rygbi yn y gêm fyddai wedi gallu ymdrin cystal â’r hyn sydd wedi cael ei daflu ato fe ers iddo fe ymuno â’r Picwns.

“Mae e wedi osgoi disgyn o’r adran ac wedi cadw ffocws y garfan yn ystod anawsterau ariannol oddi ar y cae, gyda’r canlyniad ei fod e a’i dîm hyfforddi wedi arwain y garfan o safle rhif 11 i wythfed i seithfed mewn tymhorau dilynol yn Uwch Gynghrair Aviva, ac yn bedwerydd ar hyn o bryd.”