Mae cadeirydd a pherchennog Oldham Athletic, Simon Corney wedi dweud bod y clwb “80% yn sicr” o arwyddo’r Cymro Ched Evans.

Ym marn Corney, mae Evans wedi derbyn ei gosb ac mae cyfarwyddwyr y clwb yn cytuno y dylid rhoi cyfle i’r chwaraewr a gafodd ei ryddhau o’r carchar ym mis Hydref yn dilyn dwy flynedd a hanner dan glo am dreisio dynes mewn gwesty.

Mae nifer o noddwyr y clwb wedi tynnu eu cefnogaeth ariannol yn dilyn adroddiadau bod Evans ar fin arwyddo cytundeb.

Dywedodd Corney: “Rydyn ni o’r farn ei fod e wedi cwblhau ei ddedfryd. Rydyn ni 80% yn sicr o’i arwyddo fe.

“Fydd e ddim cael ei gyflawni  heddiw (dydd Mercher). Nid yw’n syml ac mae rhai materion cyfreithiol.

“Mae’n bosib y bydd yna gost, ond rhaid i chi gadw at eich egwyddorion. Doedden ni ddim wedi cael ein synnu gan y feirniadaeth.”

Dywedodd Corney fod nifer o reolwyr yn yr Uwch Gynghrair wedi datgan eu cefnogaeth i’r clwb, a’i fod yn parchu barn y rhai sy’n honni na ddylai Evans gael chwarae’n broffesiynol eto.

Pe bai Oldham yn arwyddo Evans, nid dyma’r tro cyntaf y bydden nhw’n cefnogi chwaraewr yn dilyn cyfnod yn y carchar.

Yn 2007, cafodd Lee Hughes ei arwyddo yn dilyn cyfnod dan glo am achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus.