Bydd y Cymro Nathan Cleverly yn ymladd yn y categori pwysau is-drwm pan fydd yn dychwelyd i’r byd bocsio ym mis Ebrill.
Daw ei benderfyniad wedi iddo golli’r ornest yn erbyn Tony Bellew, ac roedd disgwyl i’r ddau herio’i gilydd am y trydydd tro cyn y daeth cadarnhad fod Cleverly wedi newid categori.
Collodd ei ornest olaf yn y categori is-drwm yn 2013 yn erbyn Sergey Kovalev.
Bydd Cleverly yn ymladd unwaith eto ar Ebrill 11 cyn gornest Josh Warrington yn erbyn Dennis Tubieron ar gerdyn y WBC, ac fe fydd y cyfan yn fyw ar Sky Sports.
Kovalev yw deilydd y WBO a’r IBF, tra bod Adonis Stevens yn bencampwr presennol y WBC.
Gallai hynny olygu bod Cleverly yn mynd am y WBA, sydd ar hyn o bryd yn nwylo Jurgen Braehmer.