Jamie Donaldson
Mae’r Cymro Jamie Donaldson wedi’i enwi’n Golffiwr Proffesiynol y Flwyddyn gan Undeb Golff Cymru.
Tarodd Donaldson o Bontypridd yr ergyd fuddugol i Ewrop yn erbyn yr Unol Daleithiau yng Nghwpan Ryder yn Gleneagles, ac fe sgoriodd dri phwynt yn ystod y gystadleuaeth gyfan.
Dyma’r pedwerydd tro o’r bron i Donaldson gipio’r wobr.
Cafodd y wobr ei chyflwyno i Donaldson mewn seremoni arbennig yng Ngwesty’r Celtic Manor, lle cafodd Cwpan Ryder ei chynnal yn 2010.
Mae Donaldson yn rhif 24 yn rhestr detholion y byd ar ôl sicrhau ei le ym mhob un o’r pedair prif gystadleuaeth eleni.
Dywedodd prif weithredwr Undeb Golff Cymru, Richard Dixon: “Mae Jamie yn gynnyrch y system golff yng Nghymru, wedi iddo ddod drwy’r system amatur ryngwladol trwy chwarae i Gymru, ac rydym oll yn falch iawn o’i ymdrechion eleni.
“Mae’n esiampl wych i’r holl chwaraewyr sy’n dod drwodd y tu ôl iddo.
“Edrychwn ymlaen at ragor o lwyddiant yn 2015.”