Mae dau o noddwyr clwb Oldham Athletic wedi dweud eu bod nhw’n barod i dynnu eu cefnogaeth i’r clwb pe baen nhw’n arwyddo’r Cymro Ched Evans.

Mae ZenOffice a Verlin Rainwater Solutions yn ddau o brif noddwyr y clwb.

Mae disgwyl i Oldham wneud datganiad am Ched Evans yfory yn dilyn trafodaethau rhyngddyn nhw a Chymdeithas y Pel-droedwyr Proffesiynol.

Mae lle i gredu bod Evans a’r clwb wedi dod i gytundeb ynghylch telerau personol.

Mewn datganiad, dywedodd Craig Verlin o gwmni Verlin Rainwater Solutions: “Wedi i ni dderbyn y newyddion bod Ched Evans ar fin arwyddo, mae Verlin Rainwater Solutions yn difaru na fydd yn gysylltiedig ag Oldham Athletic bellach.

“Hoffem gymryd y cyfle hwn i egluro ein bod ni’n teimlo y dylai Mr Evans gael byw ei fywyd heb gosb bellach wedi iddo gwblhau ei ddedfryd, er bod ein teimladau’n parhau’r un fath na ddylai hynny fod yn llygaid y cyhoedd lle gallai ei ymddygiad yn y gorffennol ddylanwadu ar y genhedlaeth nesaf.”

Ychwanegodd y byddai parhau i gefnogi Oldham Athletic yn “rhoi’r neges anghywir”.