Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande
Mae Ffrainc wedi bod yn cynnal munud o dawelwch i gofio’r 12 o bobl gafodd eu saethu’n farw mewn ymosodiad ar swyddfa cylchgrawn ym Mharis ddoe.
Roedd Arlywydd Ffrainc Francois Hollande wedi cyhoeddi diwrnod swyddogol o alaru i roi teyrnged i’r rhai gafodd eu lladd ym mhencadlys Charlie Hebdo ddydd Mercher.
Bu clychau’n canu o Gadeirlan Notre Dame ym Mharis a baneri’n chwifio ar hanner mast, a daeth trafnidiaeth gyhoeddus yn y brifddinas i stop yn ystod y munud o dawelwch.
Mae Francois Hollande wedi galw ar bobl Ffrainc i uno yn erbyn brawychiaeth ac anoddefgarwch.
Roedd Charlie Hebdo wedi trydar cartŵn o’r proffwyd Mohammed funudau cyn yr ymosodiad, gyda neges yn dymuno ‘gwyliau hapus’ i’w ddarllenwyr. Roedd y cylchgrawn wedi wynebu sawl bygythiad yn y gorffennol.
Chwilio’n parhau
Parhau mae’r chwilio am ddau frawd sy’n cael eu hamau o’r ymosodiad, Said Kouachi a Cherif Kouachi, gyda miloedd o blismyn ar strydoedd Ffrainc yn chwilio amdanyn nhw.
Cafodd lluniau o’r ddau ddyn eu rhyddhau gan yr heddlu tra bod trydydd dyn wedi ildio i’r awdurdodau.
Roedd Hamyd Mourad, 18, wedi mynd at yr heddlu ar ôl clywed ei enw ar y newyddion mewn cysylltiad â’r ymosodiad, meddai swyddog.
Mewn ymosodiad arall yn ardal Montrouge yn ne Paris y bore ma cafodd plismones ei saethu’n farw a chafodd person arall eu hanafu. Nid yw’n glir ar hyn o bryd a oes cysylltiad rhwng y ddau ddigwyddiad.
Yn y cyfamser mae mesurau diogelwch wedi cael eu tynhau mewn porthladdoedd yn y DU yn dilyn yr ymosodiad ddoe.
Dywed Downing Street bod y mesurau mewn lle fel “rhagofal” ac nad oedd newid wedi bod yn lefel y bygythiad i’r DU.
‘Atgof ofnadwy’
Mae pennaeth MI5 wedi dweud bod yr ymosodiad yn “atgof ofnadwy” o fwriad y rhai sy’n mynnu niweidio’r Gorllewin.
Dywedodd Andrew Parker fod MI5 yn cynnig cefnogaeth i wasanaethau diogelwch Ffrainc.
“Mae’n rhy gynnar i ni farnu am fanylion penodol neu wreiddiau’r ymosodiad ond mae’n atgof ofnadwy o fwriad y rhai sy’n dymuno ein niweidio.
“Fel y byddech yn ei ddisgwyl, rydym yn cynnig cefnogaeth lawn i’n cydweithwyr yn Ffrainc wrth iddyn nhw ymateb.”
Mae mesurau diogelwch y DU wedi tynhau ers yr ymosodiad ym Mharis ddoe.
Mae mwy o gerbydau’n cael eu chwilio wrth iddyn nhw groesi i Ffrainc, ac mae mwy o staff diogelwch wrth fynedfeydd yr Eurostar ym Mharis.
Ond mae Stryd Downing yn mynnu nad yw lefel y bygythiad i’r DU wedi newid.
Daw’r cyhoeddiad yn dilyn cyfarfod o bwyllgor diogelwch Cobra dan gadeiryddiaeth yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May.