Bu Lara Catrin mewn gwylnos ym Mharis neithiwr
Wrth i drigolion Ffrainc alaru yn dilyn ymosodiad sydd wedi cael ei ddisgrifio fel un o’r rhai gwaethaf erioed yn y wlad, mae Cymraes sy’n byw ym Mharis yn dweud bod “teimlad iasol iawn” ar y strydoedd.

Bu Lara Catrin, 23 oed, sy’n wreiddiol o’r Felinheli ger Caernarfon yn siarad â golwg360 am yr awyrgylch sydd yn y brif ddinas wedi ymosodiad brawychol ddoe, ynghyd a mwy o drais y bore ma.

Roedd hi’n un o’r miloedd o bobol aeth allan i wylnos neithiwr i gofio am y deuddeg person gafodd eu saethu’n  farw yn dilyn y gyflafan yn swyddfa cylchgrawn Charlie Hebdo.

Beiros yn yr awyr

“Pan gyrhaeddais i sgwâr Place de la Republique, sy’n brif faes protestiadau ym Mharis, lle’r oedd yr wylnos yn cael ei chynnal, roedd ‘na fôr o bobol yno,” meddai Lara Catrin sy’n byw yn ardal Boucicaut.

“Roedd y strydoedd i gyd wedi cael eu cau i geir a miloedd ar filoedd o bobol wedi dod allan i’r sgwâr, a phawb yn dawel. Roedd hi’n amhosib i beidio bod dan deimlad.

“Fel aeth y noson yn ei blaen, fe wnaeth yr wylnos droi i mewn i fwy o rali. Roedd pobol yn dringo’r cerflun anferth ynghanol y sgwâr a lot o ganhwyllau yn cael eu gosod o gwmpas y lle. Roedd pobol yn llafarganu ‘Charlie’ hefyd, a theimlad ein bod ni gyd mewn undod.

“Ond y peth mwyaf dirdynnol weles i oedd pan ddechreuodd pobol ddal eu beiros i fyny yn yr awyr. Roedd o’n ddelwedd gref iawn ac yn rhywbeth nad oeddwn i wedi disgwyl ei weld.

“Roedd munud o dawelwch yn cael ei gynnal bob awr. Yr adeg hynny, roedd hi’n mynd yn hollol ddistaw ac yna fe fyddai pobol yn bloeddio ac yn clapio.

“Mae’n swnio fel cliché i ddweud ein bod ni gyd wedi dod at ein gilydd ond mi roedd o’n rhoi nerth i chi. Doedd ‘na neb ofn. Roeddech chi’n cerdded o gwmpas ac yn gweld pobol yn crio, ac yna’n gweld pobol oedd erioed wedi cyfarfod ei gilydd yn cysuro ei gilydd.

“Roedd o fel bod pawb yn galaru fel un.”

Megis dechrau

Ychwanegodd: “O siarad hefo’n ffrindiau yma, dwi’n meddwl bod pawb yn ofni mai ddoe oedd megis dechrau pethau.

“Roedden ni gyd yn cytuno bod rhywbeth fel hyn yn fater o ‘pryd’ yn hytrach nag ‘os’, a ddoe, yn amlwg, fe ddigwyddodd o mewn ffordd na allwn i fyth fod wedi dychmygu.

“Dw i ddim wedi gadael fy fflat y bore ma, ond dw i’n gallu gweld bod pob man yn hollol dawel. Mae hi’n ddiwrnod andros o niwlog a du yma hefyd, ac mae hynny’n iasol.

Gobaith

“Mae son bod y ddau frawd yn dod o ogledd Paris – ardal lle ydw i’n gweithio ynddi ac yn ei hadnabod yn dda. Mae hi’n ardal dlawd, gyda chymdeithas fawr o Fwslimiaid a lot o helynt yn digwydd yn ddyddiol.

“Dwi’n mynd i fosg yng nghanol y ddinas yn aml – mae’n rhywle pwysig ym mywyd Paris. Mae o’n le dwi’n mynd yn aml i gael paned gyda ffrindiau, ac mae o hefyd yn enwog iawn am ei fwyty.

“Ond dw i wir yn gobeithio y bydd pobol yn cario mlaen i fynd yno ac yn parhau i ddangos yr undod yma a welwyd neithiwr.

“Er bod yr ymosodiad yn rhywbeth faswn i byth eisiau i ddigwydd, mi ddangosodd o ba mor anhygoel o le ydy Paris – wrth i bawb ddod at ei gilydd hefo’r cryfder yma.”

Cyfweliad: Gwenllian Elias