Mae un o fawrion y byd chwaraeon, Muhammad Ali wedi gadael yr ysbyty wedi iddo ddioddef o haint arennol.

Cafodd ei ryddhau neithiwr wedi iddo dreulio’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn yr ysbyty.

Pan gafodd Ali, 72, ei gludo i’r ysbyty, roedd meddygon yn credu ei fod yn dioddef o niwmonia.

Dywedodd llefarydd ar ran y teulu ei fod yn edrych ymlaen at ddathlu ei ben-blwydd gyda’i deulu a’i ffrindiau ar Ionawr 17, a diolchodd am y llu o negeseuon a gafodd eu rhoi iddo.