Ched Evans pan oedd yn chwarae i Sheffield United
Mae disgwyl i Oldham Athletic arwyddo ymosodwr Cymru, Ched Evans, yn ôl papur newydd y Guardian.

Mae Evans wedi bod heb glwb ers iddo gael ei ryddhau o’r carchar yn dilyn dwy flynedd a hanner dan glo am dreisio dynes mewn gwesty yn y Rhyl.

Dywed cynrychiolwyr Evans eu bod nhw’n hyderus y gallan nhw sicrhau cytundeb iddo, er gwaethaf deiseb gan 62,000 o bobl yn gwrthwynebu’r penderfyniad.

Mae cadeirydd a pherchennog Oldham, Simon Corney eisoes wedi dweud bod gan Evans yr hawl i ddychwelyd i’r byd pêl-droed.

Cafodd cynhadledd i’r wasg ei chanslo ddydd Llun, ac roedd sôn bod Oldham wedi gwneud tro pedol.

Ond fe allai’r newyddion gael ei gadarnhau yfory fod Evans wedi arwyddo cytundeb.

Mae nifer o wleidyddion blaenllaw, gan gynnwys Prif Weinidog Prydain David Cameron, wedi lleisio’u barn ar y mater, gyda nifer helaeth yn dweud na ddylai Evans gael chwarae eto.

Yr wythnos diwethaf, roedd disgwyl i Evans fynd i ynys Melita i chwarae i glwb Hibernians, ond gwnaeth yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May ymyrryd gan ddweud y byddai angen iddo aros ym Mhrydain am gyfarfodydd rheolaidd gyda’r gwasanaeth prawf.

Mae nifer o noddwyr Oldham Athletic wedi bygwth tynnu eu harian allan o’r clwb pe baen nhw’n arwyddo Evans.

Yn y cyfamser, mae gwefan yr Independent yn adrodd bod tad cariad Evans, Karl Massey sy’n berchen ar fusnesau gemwaith yng ngogledd-orllewin Lloegr, wedi dweud ei fod yn barod i fuddsoddi yn y clwb pe bai noddwyr eraill yn tynnu eu harian yn ôl.