Mae cyn-bennaeth dyfarnwyr yr Uwch Gynghrair, Keith Hackett wedi dweud bod y cerdyn coch a gafodd chwaraewr canol-cae Abertawe, Wayne Routledge yn erbyn QPR dros gyfnod y Nadolig ymhlith y penderfyniadau gwaethaf gan y dyfarnwyr y tymor yma.

Dywedodd Hackett mai’r dyfarnwyr presennol yw’r “gwaethaf erioed”.

Galwodd Hackett ar y pennaeth dyfarnwyr presennol, Mike Riley i ymddiswyddo, gan fynnu bod y dyfarnwyr Mike Jones, Andre Marriner, Lee Mason a Chris Foy yn colli eu statws fel dyfarnwyr yr Uwch Gynghrair hefyd.

Tynnodd sylw hefyd at ddiffyg ffitrwydd Lee Probert.

“Y gwall mawr yn ddiweddar yn ystod gornest oedd twpdra anfon Wayne Routledge o’r Elyrch oddi ar y cae, pan oedd e ei hunan wedi cael ei daclo’n ddi-ofal.

“Mae’n anghredadwy fod dyfarnwr ‘blaenllaw’ yn gwneud y fath gamgymeriad.”

Anthony Taylor oedd y dyfarnwr dan sylw’r diwrnod hwnnw, ac fe gafodd y cerdyn coch ei ddiddymu yn dilyn adolygiad.