Mae ymosodwr 22 oed Abertawe Modou Barrow wedi arwyddo cytundeb newydd a fydd yn ei gadw yn y Liberty am bedair blynedd.

Symudodd Barrow, sy’n hanu o’r Gambia, i Abertawe o Ostersunds FK yn Sweden cyn dechrau’r tymor hwn.

Sgoriodd am y tro cyntaf i’r Elyrch yr wythnos diwethaf yn eu buddugoliaeth o 6-2 dros Tranmere yng Nghwpan yr FA.

Dywedodd Barrow wrth wefan yr Elyrch: “Mae’n wych cael arwyddo’r cytundeb newydd. Roedd yn benderfyniad hawdd.

“Fe ddes i yma tan fis Ionawr yn wreiddiol, ond nawr galla i aros am y pedair blynedd nesaf.

“Mae wedi bod yn anhygoel cael chwarae i’r tîm cyntaf ers ymuno yn yr haf.

“Rwy wedi trio gweithio mor galed â phosib wrth ymarfer a phan dw i wedi cael cyfle, ond rwy’n gwybod fod rhaid i fi barhau i weithio am gyfleoedd pellach.”