Timau achub yn Indonesia
Mae deifwyr wedi dod o hyd i adain ôl awyren AirAsia a ddiflannodd ym môr Java 11 o ddiwrnodau yn ôl.
Roedd yr awyren yn cludo 162 o deithwyr pan ddiflannodd.
Er y tywydd garw, mae deifwyr wedi llwyddo i dynnu llun o’r gweddillion.
Fe allai’r adain ôl ddatgelu beth ddigwyddodd i’r awyren cyn iddi ddiflannu, gan mai yn yr adain mae’r ‘blwch du’ sy’n cofnodi data am deithiau awyr.
Roedd darnau o’r awyren, gan gynnwys seddau a drws argyfwng, eisoes wedi cael eu darganfod.
Mae’r chwilio am ragor o gyrff yn parhau – 40 sydd wedi cael eu darganfod hyd yn hyn, ac mae 120 yn dal ar goll.
Y cefndir
Aeth awyren Airbus A320 i lawr ar Ragfyr 28 yng nghanol taith dwy awr a hanner rhwng Indonesia a Singapore.
Mae lle i gredu bod y tywydd garw wedi achosi’r awyren i blymio i’r môr, ond does dim cadarnhad hyd yn hyn.
Dywedodd y peilot ychydig cyn diflaniad yr awyren fod y cymylau’n drwchus, ond fe gafodd wybod nad oedd hawl ganddo i ddringo’n uwch oherwydd bod nifer o awyrennau’n hedfan ar yr un pryd.