Mark Drakeford
Fe fydd £3 miliwn yn cael ei wario ar system gyfrifiadurol newydd i’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru mewn ymdrech i wella profiad cleifion a lleihau gwaith papur i weithwyr, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Daeth y cyhoeddiad gan y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford a’r Gweinidog Cyllid Jane Hutt, sydd wedi dweud bod y system newydd yn “gam mawr ymlaen.”

Fe fydd gan weithwyr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys fynediad cyflym i gofnodion cleifion gan eu meddygon teulu ac o ysbytai eraill, ac mae disgwyl y bydd hyn yn gwella’r broses o wneud a chael canlyniadau profion.

Bydd y system yn cael ei gyflwyno yn gyntaf ym Mwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg a Betsi Cadwaladr, gyda disgwyl y bydd pob bwrdd iechyd yn ei fabwysiadu.

Cyd-weithio

“Mae datblygiad y Cynllun Rheoli Gwybodaeth Glinigol ar gyfer Adrannau Achosion Brys (EDCIMS) newydd yn gam mawr ymlaen a fydd yn golygu bod gwybodaeth electronig yn cael ei rannu rhwng pob adran frys yng Nghymru yn y pen draw,” meddai Mark Drakeford.

“Fe fydd yn gwella’r cyd-weithio rhwng yr adrannau.”

Ychwanegodd Jane Hutt: “Mae’r buddsoddiad yma sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn mynd i sicrhau bod gwasanaethau yn gynaliadwy, effeithiol ac yn fforddiadwy yn y tymor hir, ac fe fydd yn gwella profiad cleifion yng ngwasanaeth iechyd Cymru.”