Andrew R T Davies
Mae arweinydd Ceidwadwyr Cymru wedi cefnogi beirniadaeth Prif Weinidog Prydain ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Hynny ar ôl i David Cameron gael ei gyhuddo o ddefnyddio’r “sylwadau mwya’ sarhaus yn hanes y Gwasanaeth” wrth awgrymu bod llinell o fywyd a marwolaeth rhwng Cymru a Lloegr, oherwydd methiannau’r gwasanaeth Cymreig.
Er na ddefnyddiodd yr union eiriau, fe ddywedodd Andrew R T Davies heddiw fod yna linell rhwng y ddwy wlad, gyda’r gwasanaeth yn salach ar ochr Cymru a hynny’n gallu arwain yn y pen draw at ddiffyg triniaeth a marwolaethau.
“Gwaetha’r modd, rydych am gael canlyniadau gwaeth,” meddai ar raglen ffonio Radio Wales. “Gallai hynny, yn ddiamau arwain at beidio â chael y driniaeth sydd ei hangen arnoch ac fe allech farw.”
Condemnio sylwadau Cameron
Ynghynt ar yr un rhaglen, roedd Dirprwy Weinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething, wedi condemnio sylwadau David Cameron gan ddweud mai dyna’r sylwadau “mwya’ sarhaus erioed” am y Gwasanaeth Iechyd.
Roedd yn mynnu nad oedd modd cymharu ffigurau rhwng Cymru a Lloegr ac nad oedd y sywladaun gwneud dim i oleuo’r cyhoedd am y gwasanaeth.
Fe alwodd Andrew R T Davies arno yntau i ymddiheuro am fod chwaraewr rygbi wedi gorfod aros am bron dair awr am ambiwlans ar ôl torri ei goes mewn gêm yn Abertawe.