Fe fydd deifwyr yn ail-ddechrau eu hymdrechion ym Môr Java i ddod o hyd i ddarnau mawr o’r hyn maen nhw’n credu yw gweddillion awyren Air Asia, a blymiodd i’r dŵr dros wythnos yn ôl, gan ladd 162 o bobl.
Mae o leiaf pump o longau sydd ag offer sy’n gallu dod o hyd i flychau du wedi cael eu hanfon i’r ardal, lle credir bod rhannau o’r awyren wedi cael eu gweld, yn ôl pennaeth yr ymgyrch chwilio ac achub yn Indonesia, Suryadi Supriyadi.
Os nad yw’r deifwyr yn gallu codi’r darnau, meddai, yna fe fyddan nhw’n defnyddio offer arbenigol i’w codi o’r môr.
Mae pum darn – y mwyaf yn mesur 18 metr (59 troedfedd) o hyd – wedi cael eu gweld ac mae’n debyg y bydd nifer o gyrff yn cael eu darganfod y tu mewn iddyn nhw, meddai Suryadi Supriyadi.
Ond mae’r ymdrech yn ddibynnol ar y tywydd unwaith eto, meddai.
Roedd deifwyr wedi ceisio cyrraedd y safle ddoe ond roedd y tonnau mawr wedi rhwystro’r gwaith.
Fe ddiflannodd yr awyren wrth deithio o Surabaya yn Indonesia i Singapore ar 28 Rhagfyr yn ystod tywydd stormus.
Mae 34 o gyrff wedi cael eu tynnu o’r môr hyd yn hyn.