Mae tri gweithiwr yn Ne Corea wedi marw wedi iddyn nhw, yn honedig, anadlu mwg gwenwynig ar safle adeiladu atomfa niwclear newydd.

Mae cwmniau Choi Hee-ye a Hydro and Nuclear Power Co wedi rhyddhau datganiad yn cadarnhau fod y gweithwyr yn gweithio ar safle yn ninas Ulsan yn ne-ddwyrain y wlad pan syrthion nhw’n anymwybydol cyn cael eu cludo i’rysbyty.

Dydi achos y ddamwain ddim wedi’i gadarnhau eto, ond y gred ydi fod nwy nitrogen wedi gollwng.

Mae disgwyl i’r gwaith adeiladu fod wedi’i gwblhau erbyn y flwyddyn nesa’.