Llun: PA
Mae staff mewn tair canolfan ddosbarthu yng Nghymru mewn peryg mawr o golli eu swyddi wrth i gwmni parseli City Link fynd i ddwylo’r derbynwyr.

Fe wnaed y penderfyniad ddoe a’r cyhoeddiad heddiw, gan ennyn beirniadaeth gref gan undeb y gweithwyr trafnidiaeth, yr RMT.

Mae’r canolfannau yn Abertawe, Caerdydd a’r Gaerwen, Ynys Môn, ymhlith 53 o ganghennau a 2,727 o swyddi sydd dan fygythiad.

Agor ddydd Llun

Fe fydd y canolfannau ar gau’n llwyr tan ddydd Llun pan fyddan nhw’n agor i gwsmeriaid fynd i gasglu parseli.

Yn ôl y gweinyddwyr, cwmni o’r enw EY, doedd dim dewis ar ôl i’r perchnogion, Better Capital, wneud colledion mawr ers buddsoddi £40 miliwn yn y cwmni yn 2013.

Ond mae’r RMT wedi beirniadu’r perchnogion am wneud y cyhoeddiad ddydd Nadolig ar ôl gwneud yn siŵr fod staff wedi dosbarthu holl barseli’r ŵyl.

Mae City Link yn berchen ar 1,700 o gerbydau ac yn dosbarthu tua 60 miliwn o barseli bob blwyddyn.