Llun: PA
Fe alwodd y Pab am fwy o ymdrechion dyngarol i helpu ffoaduriaid y byd i fyw trwy’r gaeaf.
Ac fe alwodd hefyd am feddalu calonnau pobol mewn gwledydd cyfoethog sy’n ymdrybaeddu mewn materiolaeth a difaterwch.
Roedd yr anerchiad Nadolig gan y Pab cynta’ o Dde America yn canolbwyntio ar y “rhai sy’n wylo yn y byd”, gan gynnwys rhai o’r diweddara’ – teuluoedd y plant a laddwyd gan frawychwyr mewn ymosodiad ar ysgol ym Mhacistan.
Erlid
Fe soniodd y Pab Ffransis hefyd am blant sy’n cael eu prynu a’u gwerthu a’u gorfodi i fod yn filwyr ac am yr erlid ar hen boblogaethau Cristnogol yn y Dwyrain Canol.
Wrth gyfeirio at ffoaduriaid, dyma oedd ei eiriau wrth y miloedd o bobol yn Sgwâr Sant Pedr: “Boed i ddifaterwch gael ei droi’n gymorth dyngarol angenhreidiol i helpu goroesi caledi’r gaeaf.”