Fe fu’n rhaid i’r gwasanaethau brys achub dau berson o dân yn eu cartre’ yng ngorllewin Cymru.

Fe gafodd diffoddwyr eu galw tua dau o’r gloch y bore yma i gartref yn Adpar, ar draws afon Teifi o Gastellnewydd Emlyn.

Roedd y gegin ar dân yn y tŷ yng Nghlos Bryn Deri – yn ôl diffoddwyr, roedd y ddau berson wedi eu hysgwyd ond heb eu brifo.