George Bush
Mae cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, George H W Bush yn yr ysbyty o hyd, wedi iddo gael problemau anadlu.

Cafodd Bush, 90, ei gludo i’r ysbyty yn Texas neithiwr.

Treuliodd y cyn-Arlywydd a thad George W Bush, ddeufis yn yr ysbyty yn 2013 oherwydd peswch difrifol a salwch cysylltiedig.

Dywedodd y Tŷ Gwyn fod yr Arlywydd presennol Barack Obama wedi cael gwybod am gyflwr un o’i ragflaenwyr, a’i fod yn anfon ei ddymuniadau gorau ato.

Ymddangosodd George Bush yn gyhoeddus ddwywaith fis diwethaf – unwaith ym Mhrifysgol A&M a’r tro arall mewn gêm bêl-droed Americanaidd.

Treuliodd George Bush, 41ain Arlywydd yr Unol Daleithiau, ddau dymor yn is-Arlywydd i Ronald Reagan cyn cael ei ethol yn Arlywydd yn 1992.

Collodd yr Arlywyddiaeth i Bill Clinton yn 1996.

Mae’n dioddef o glefyd Parkinson ac mae’n defnyddio cerbyd symudedd neu gadair olwyn.