Mae byddin Israel yn honni fod y roced gynta’ ers mis Medi wedi cael ei thanio o gyfeiriad Gaza heddiw.

Mae’n dweud fod seiren wedi seinio yn ardal Eshkol, ar y ffin gyda Gaza, yn nodi fod roced wedi’i thanio. Mae lluoedd diogelwch wrthi’n archwilio’r ardal er mwyn gweld lle’n union laniodd y roced.

Ym mis Medi, fe laniodd roced ar y ffens sy’n nodi’r ffin rhwng tiroedd Israel a thiroedd y Palesteiniaid.

Yn ystod y rhyfel 50 diwrnod yn ystod yr ha’ eleni, fe laddwyd mwy na 2,100 o Balesteiniaid yn ystod brwydro ciaidd. Yn ol ystadegau’r Cenhedloedd Unedig, fe laddwyd 66 o filwyr Israel, a chwech o Israeliaid cyffredin.