Baner IS
Mae milwriaethwyr y grŵp eithafol y Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi tanio roced tuag at hofrennydd milwrol yn Irac gan ladd dau beilot ar ei fwrdd.

Dywedodd uwch swyddog yn y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Irac bod y milwriaethwyr wedi tanio’r roced at yr hofrennydd ger Samarra.

Yn ystod y misoedd diwethaf mae’r gwrthryfelwyr wedi saethu dau o hofrenyddion milwrol Irac i’r llawr ger dinas Beiji.

Mae IS bellach wedi meddiannu nifer fawr o drefi yn Irac a Syria, er gwaethaf ymosodiadau o’r awyr gan luoedd yr Unol Daleithiau ac Irac yn ystod y misoedd diwethaf.