Mae pentrefwyr ym Mro Morgannwg yn galw ar ddau ŵr busnes lleol i ail ystyried eu penderfyniad i ganiatáu tyllu am nwy ar dir sydd yn berchen i’w cwmni.
Fe fydd ymgyrchwyr gwrth-ffracio o bob rhan o dde Cymru yn ymuno a thrigolion Llantriddyd mewn cyfarfod yn Y Bont-faen heddiw.
Uchafbwynt y digwyddiad, sydd i’w gynnal tu allan i Neuadd y Dre am 11yb, fydd cyflwyno deiseb bapur ac ar-lein sy’n galw ar Evfil Cyf, i gymryd sylw o gryfder y gwrthwynebiad lleol i’r tyllu.
Dywed yr ymgyrchwyr bod cyfarwyddwyr y cwmni yn cael ei gofrestru fel Evan Williams, hyfforddwr ceffylau rasio, a W Philip Thomas syrfëwr siartredig gyda chwmni gwerthwr tai lleol.
Ym mis Hydref 2013 fe bleidleisiodd Pwyllgor Cynllunio Bro Morgannwg i gefnogi cynnig gan Coastal Oil & Gas Cyf i dyllu ar dir glas ar ffin y pentref ger yr A48 ar gyrion Tresimwn.
Mae’r cae ond ychydig fetrau y tu allan i ardal gadwraeth a gafodd ei sefydlu 40 mlynedd yn ôl i warchod bywyd gwyllt lleol, bioamrywiaeth, a chymeriad hanesyddol bwysig y pentref.
Mae hefyd o fewn hanner milltir i’r unig barc ceirw organig yng Nghymru, cartref i 160 o geirw coch ac yn anodd ei gyrraedd ar hyd ffordd gul a throellog, meddai’r ymgyrchwyr.
‘Ail-ystyried’
“Y mae’n dymor ewyllys da ac felly rydym yn erfyn ar Mr Williams a Mr Thomas, fel cymdogion, i ddangos ychydig o ysbryd cymdeithasol drwy ail-ystyried eu penderfyniad i ganiatáu tyllu i gymryd lle,” meddai Sian Elin Jones, Cadeirydd Cymdeithas Cymdogion Llantriddyd.
“Gyda’u cymorth nhw fe all ardal wledig brydferth gael ei hachub oddi wrth yr ôl-effeithiau potensial andwyol sy’n gysylltiedig â’r rhuthr un llygeidiog tuag at ynni ffosil budr. Mae’r mwyafrif o’r trigolion lleol yn gwrthwynebu tyllu.
“Yng Nghymru fe ddylen ni fod yn arwain y gad yn yr ymchwil ar gyfer ynni glân hir dymor, yn hytrach na achosi peryg i’n hamgylchfyd gydag ateb byrfyfyr.”
‘Dim ymgynghori’
Nid ydy Coastal Oil & Gas Cyf wedi dechrau gweithio ar y safle hyd yn hyn ond mae’r cwmni wedi datgan ei fod eisiau dechrau tyllu os bydd nwy yn cael ei ddarganfod.
Dywed yr ymgyrchwyr nad oedd yr un o’r cwmnïau wedi ymgynghori gyda’r trigolion lleol cyn gwneud eu cynnig ym mis Mai 2013 ac ers hynny maen nhw wedi gwrthod a chyfarfod gyda’r gymuned i drafod eu cynlluniau.
Mae’r safle yn un o nifer ar hyd Bro Morgannwg sy’n cael eu clustnodi fel rhan o fwriad gan Lywodraeth y DU i dyllu am nwy siâl.
‘Peryglyon’
Yn yr Unol Daleithiau mae yna awgrymiadau fod y broses o ffracio yn niweidiol i’r amgylchfyd yn ogystal ag iechyd lleol.
Ac mewn adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan Brif Wyddonydd y Llywodraeth, Mark Walport, dywedodd Andy Stirling o Uned Bolisi Wyddonol Prifysgol Sussex, y gallai tocsinau sy’n cael eu rhyddhau drwy ffracio achosi peryg i iechyd sydd yr un mor beryglus â’r peryglon sy’n gysylltiedig ag asbestos, thalidomeid a thybaco.
Dywedodd Sian Elin Jones: “Pedwar mis ar bymtheg o’r cychwyn, mae’r teimladau yma mor gryf ag erioed. Wnawn ni ddim ildio.”