Disgynnodd gwerthiant McDonalds o 2.2% dros y byd ym mis Tachwedd eleni yn ôl y cwmni.

Mae’r cwmni bwyd cyflym wedi dioddef cwymp mewn gwerthiant, gyda gostyngiad o 4.6% yn yr Unol Daleithiau, 4% yn y Dwyrain Canol ac Affrica, a 2% yn Ewrop.

Yn Asia, mae’r cwmni wedi bod yn ceisio adennill tir ers yr haf, pan gafwyd adroddiadau yn dangos gweithwyr yn un o’r cwmniau cyflenwi yn ailbecynnu cig yr honnir oedd wedi dyddio.

Nid yw’r honiad wedi’i gadarnhau gan y cyflenwr na’r llywodraeth.

Mae McDonalds yn cydnabod bod ei fusnes yn yr Unol Daleithiau wedi dioddef yn sgil cystadleuaeth gan gwmniau eraill.

Mae’r cwmni eisoes wedi dweud ei fod yn bwriadu symleiddio’r fwydlen, gan roi cyfle i fwytai addasu’r fwydlen yn ol y galw mewn gwahanol ranbarthau.

Yn Ewrop, gwelwyd perfformiad cryf gan y cwmni byrgyrs ym Mhrydain, er gwaethaf gostyngiad yn Rwsia, Ffrainc a’r Almaen fis diwethaf.

Mae gan McDonald’s fwy na 35,000 o leoliadau mewn 100 o wledydd. Disgynnodd ei gwerth ar y farchnad stoc 2.9% cyn i’r farchnad agor yn America heddiw.