Vladimir Putin
Mae arlywydd Ffrainc, Francois Hollande, wedi cyfarfod arweinydd Rwsia, Vladimir Putin, yn ystod ymweliad dirybudd a dinas Mosgow.

Mae penderfyniad Hollande i alw ym Mosgow ar ei ffordd gartre’ o Kazakhstan i Baris, yn golygu mai ef yw’r unig un o benaethiaid gwledydd pwerus y gorllewin i ymweld a Rwsia oddi ar i’r helyntion yn Yr Wcrain waethygu ym mis Mawrth eleni.

Bryd hynny y penderfynodd Rwsia hawlio’n ol benrhyn y Crimea oddi ar Yr Wcrain. Mae 4,300 o bobol wedi’u lladd yno ers mis Ebrill.

Fe gynhaliwyd y cyfarfod rhwng y ddau arweinydd ym maes awyr yn hytrach nag yn neuaddau’r Kremlin.