Mae nifer y marwolaethau o ganlyniad i gyffuriau ‘cyfreithlon’ yn Lloegr wedi cynyddu wyth gwaith.

Mae’r nifer wedi cynyddu o 12 yn 2009 i 97 yn 2012, yn ol ystadegau newydd.

Fe gyhoeddwyd y wybodaeth gan y Ganolfan ar gyfer Cyfiawnder Cymdeithasol (CSJ), sydd hefyd yn galw ar Lywodraeth San Steffan i roi pwerau i’r heddlu gau siopau sy’n gwerthu’r cyffuriau peryglus.

Yn y Deyrnas Unedig y mae’r gyfradd uchaf yn Ewrop o bobol ifanc sy’n defnyddio cyffuriau cyfreithlon i gyrraedd stad lle maen nhw’n ‘high’.

Mae’r CSJ hefyd yn cyhoeddi fod y nifer o bobol sydd wedi derbyn triniaeth yn Lloegr ar ol defnyddio’r cyffuriau, wedi codi 216% dros y pum mlynedd diwetha’ – o 738 yn 2009/10 i 2,339 y flwyddyn ddiwetha’.