Gerry Adams
Mae Gerry Adams, arweinydd plaid Sinn Fein, wedi cael ei wahardd rhag ymweld ag Israel.

Dywedodd y cenedlaetholwr Gwyddelig na chafodd o reswm tros benderfyniad Israel, a’i fod wedi ei siomi.

Roedd wedi bwriadu ymweld â’r wlad fel rhan o daith tri diwrnod o Lain Gaza fyddai wedi cychwyn heddiw.

Nid oes sylw wedi dod gan Weinyddiaeth Amddiffyn Israel, sy’n rheoli mynediad i’r wlad, ynglŷn â’r penderfyniad.

Ond honnir bod plaid Sinn Fein wedi bod o blaid Palestina yn yr anghydfod rhwng y wlad honno ag Israel.