Mae aelodau Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio dros newid amserlen y Cynllun Datblygu Lleol, sy’n amlinellu codi tua 4,000 o dai yn y sir dros y 15 mlynedd nesaf, a’i ohirio am chwe mis.

Mae golwg360 ar ddeall gan Gynghorydd Plaid Cymru bod yr amserlen yn cael ei diwygio oherwydd “rhesymau technegol”, ond nid oedd yn medru dweud be’n union roedd hynny’n ei olygu.

Ond yn ôl aelod o Lais Gwynedd, wnaeth bleidleisio yn erbyn y gohirio, ni fydd y chwe mis ychwanegol yn gwneud gwahaniaeth i’r cynllun dadleuol – ac fe ddylai trafodaeth fod wedi cael ei chynnal am yr angen am dai newydd.

“Dydi hi ddim yma nac acw faint yw’r gohiriad i ddweud y gwir,” meddai Alwyn Gruffydd yn trafod y Cynllun datblygu Lleol sy’n cael ei baratoi ar y cyd rhwng Gwynedd a Môn ac yn son am ganiatáu 8,000 o dai.

Mae’r nifer o dai sydd i’w codi yn seiliedig ar amcan bod poblogaeth Gwynedd a Môn am gynyddu, tra bo gwrthwynebwyr eisiau codi tai yn seiliedig ar yr angen lleol yn unig.

Trafodwyd y Cynllun dadleuol yn siambr Cyngor Gwynedd ddoe.

“Roedd hi’n gyfle i drafod yr angen am 8,000 o dai – ond fe gafodd hynny ei wrthod gan Blaid Cymru,” meddai’r Cynghorydd Alwyn Gruffydd.

“Mae hi’n gywilydd i Blaid Cymru eu bod nhw wedi pleidleisio o blaid [gohirio] ac wedi gwrthod cyfle i ail-asesu’r angen yn lleol.”

Angen ieithyddol

Mae Cyngor Gwynedd a Môn wedi bod yn y broses o lunio Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ers tua dwy flynedd, er mwyn amlinellu ym mha drefi a phentrefi yn y sir y bydd hi’n gymwys i godi tai.

Cyn penderfynu ar y ffigwr terfynol, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Gyngor Gwynedd i wneud asesiad ieithyddol o’r angen am dai – gan eu bod yn pryderu y byddai gor-ddatblygu yn y sir yn cael effaith andwyol ar y Gymraeg.

“Fedra i ddim pleidleisio o blaid yr amserlen newydd os nad ydan ni’n cael cyfle i ail-edrych ar yr angen,” meddai Alwyn Gruffydd.

“Mae dyhead ymysg pobol Gwynedd ein bod ni’n newid y Cynllun a’n bod ni’n selio unrhyw ddatblygiad ar yr angen lleol.

“Mae’n rhaid gofyn cwestiwn am eu hegwyddorion a’u hawydd nhw [Plaid Cymru] i warchod cymunedau Cymraeg yng Ngwynedd. Mi gawson nhw gyfle ddoe i wneud hynny.”

Pleidiwr yn erbyn gohirio

Un aelod o Blaid Cymru wnaeth bleidleisio yn erbyn gohirio’r amserlen – yn groes i’r mwyafrif o’i gyd-aelodau – oedd Aled Evans.

“O beth dw i wedi ei weld, dyw’r cynllun ddim yn ateb y galw lleol,” meddai Cynghorydd Chwilog.

“Mae’r galw am dai wedi dod oddi fry, gan y Llywodraeth, ond mae angen ystyried y galw am asesiad iaith ac o’r tai newydd sydd wir eu hangen yng Ngwynedd.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Gwynedd am esboniad o’r “rhesymau technegol” dros ohirio’r cynllun.