Bashar Assad
Mae Arlywydd Syria, Bashar Assad, wedi dweud nad yw cyrchoedd awyr gan yr UD yn y wlad wedi bod “yn effeithiol”.

Roedd yn honni nad yw’r ddeufis o ymosodiadau o’r awyr gan luoedd America wedi dod i unrhyw ganlyniad pendant.

Mewn cyfweliad gyda chylchgrawn Paris Match, dywedodd Bashar Assad nad fydd pobol Syria “fyth yn gadael i’r wlad fod yn degan yn nwylo Gorllewinwyr.”

Mae gwrthryfelwyr Syria wedi ennill tir yn ne Syria dros y ddeufis diwethaf, gan gipio cyfres o drefi oddi ar luoedd yr Arlywydd Bashar Assad.
Mae’r gwrthryfelwyr wedi bod yn cydweithio â changen Syria o al Qaida, sy’n cael ei hadnabod fel y Nusra Front.