Map o Somalia
Mae o leiaf 36 o weithwyr mewn chwarel wedi cael eu lladd yng ngogledd Kenya a’r gred yw mai eithafwyr Islamaidd o Somalia sy’n gyfrifol, meddai’r heddlu.

Fe gadarnhaodd yr heddlu bod y gweithwyr wedi cael eu lladd yn Sir Mandera, ger y ffin a Somalia.

Yn ôl adroddiadau roedd dynion arfog wedi ymosod ar y gweithwyr wrth iddyn nhw gysgu ger y chwarel.
Cafodd y rhai nad oedd yn Fwslimiaid eu lladd.

Nid oes unrhyw un wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad hyd yn hyn ond y gred yw mai gwrthryfelwyr Islamaidd o Somalia, al-Shabab, sy’n gyfrifol.

Roedd al-Shabab wedi ymosod ar fws yn Sir Mandera wythnos diwethaf. Cafodd 28 o deithwyr nad oedd yn Fwslimiaid eu gwahanu oddi wrth y teithwyr eraill a’u saethu’n farw.