Protestiadau Ferguson
Fe fydd yr Arlywydd Obama yn cynnal trafodaethau ynglŷn â’r protestio yn ninas Ferguson gyda’i gabinet, arweinwyr hawliau sifil a swyddogion yn ddiweddarach heddiw.
Dywed y Tŷ Gwyn y bydd y trafodaethau yn canolbwyntio ar adolygiad o raglenni ffederal sy’n darparu arfau i’r heddlu.
Mi fydden nhw hefyd yn trafod y “diffyg ymddiriedaeth rhwng yr heddlu a phobol o gymunedau croenddu”.
Mae protestio treisgar wedi bod yn y ddinas wedi i uchel reithgor benderfynu peidio erlyn plismon gwyn oedd wedi saethu’r llanc croenddu, Michael Brown, yn farw.
Mae heddlu wedi llwyddo i dawelu’r terfysg erbyn hyn, ond mae’r digwyddiad wedi amlygu tensiynau ynglŷn â’r ffordd mae pobol groenddu yn cael eu trin gan yr heddlu.