Y Pab Ffransis
Mae’r Pab wedi condemnio’r Wladwriaeth Islamaidd – IS – am ymosod ar Gristnogion a lleiafrifoedd crefyddol eraill yn Irac a Syria, wrth iddo gyrraedd gwlad Twrci i annog Mwslemiaid i fod yn gadarnach wrth drin eithafwyr.

Yn ôl y Pab Ffransis mae defnyddio grym milwrol i roi stop ar eithafwyr IS yn gyfiawn, ond hefyd mae’n galw am fwy o drafod rhwng Cristnogion a Mwslemiaid er mwyn dod â ffwndamentaliaeth i ben.

Meddai: “Rhaid i gredinwyr o bob math wrthwynebu ffanatigiaeth a ffwndamentaliaeth yn ogystal ag ofnau di-sail sy’n meithrin camddealltwriaeth a chamwahaniaethu.”

Hefyd roedd yn diolch i Dwrci am roi cartref i 1.6 miliwn o ffoaduriaid.