Rhai o'r protestwyr yn Ferguson
Mae’r heddlu wedi llwyddo i dawelu protestiadau ar draws yr UD yn sgil penderfyniad rheithgor i beidio erlyn plismon gwyn oedd wedi saethu llanc croenddu yn farw.
Roedd gwrthwynebwyr yn protestio am yr ail noson yn ninas Ferguson, ble cafodd y llanc 18 oed Michael Brown ei saethu ym mis Awst, gyda char heddlu yn cael ei roi ar dan a sawl person yn cael eu harestio.
Er hyn, roedd y protestio yn dawelach na’r noson gynt lle gwelwyd terfysg, llosgi bwriadol a difrod i siopau ar strydoedd St Louis.
Bu protestio hefyd yn Los Angeles, Efrog Newydd, Oakland, San Francisco a rhannu eraill o Galifornia, gyda gwrthwynebwyr yn cario sloganau gyda’r geiriau “Hands Up! Don’t Shoot”.
Cafodd tua 2,200 o swyddogion fyddin eu galw i Ferguson ac mae’r Arlywydd Obama wedi galw am bwyll.
Mae marwolaeth Michael Brown, 18, a gafodd ei saethu er nad oedd ganddo arf, wedi achosi gwrthdaro ffyrnig rhwng yr heddlu a dinasyddion Ferguson ers wythnosau, ac wedi amlygu tensiynau ynglŷn â’r ffordd mae pobol groenddu yn cael eu trin gan yr heddlu.
Penderfynodd uchel reithgor nad oedd digon o dystiolaeth i erlyn y plismon Darren Wilson, wnaeth saethu’r llanc, ac mae teulu Michael Brown wedi dweud eu bod wedi eu “siomi’n ofnadwy” gyda’r dyfarniad.