Prif arolygydd Estyn, Ann Keane
Mae arolwg Estyn o’r rhesymau sy’n atal dysgwyr rhag gwneud cais am brentisiaethau yn dangos bod 25% o’r rhai sy’n cynnig prentisiaethau yn credu y gall iaith a materion diwylliannol fod yn rhwystrau i bobl.
Mae’r arolwg hefyd yn dangos fod pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau yn wynebu rhagor o rwystrau na’r rhan fwyaf o bobl.
Mae adroddiad Estyn, swyddfa Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, yn archwilio’r anawsterau sy’n wynebu dysgwyr Cymraeg o grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a’r rheiny sydd ag anableddau mewn perthynas â cheisio am brentisiaethau.
Mae dadansoddiad o’r data yn awgrymu y gallai’r dysgwyr hyn fod heb gynrychiolaeth ddigonol mewn prentisiaethau.
Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o faterion sy’n codi o stereoteipio ar sail rhyw.
Ond mae’r arolwg hefyd yn tynnu sylw at ddarparwyr sydd wedi mynd ati i fynd i’r afael â’r rhwystrau i brentisiaeth.
Un o’r rhain yw Hyfforddiant Cysylltiedig Cymunedol (ACT) yng Nghaerdydd, cwmni sydd wedi gweithio gyda’r awdurdod lleol i ddarparu cymwysterau i fynd i’r afael â phrinder cynorthwywyr dysgu sy’n siarad ieithoedd lleiafrifoedd ethnig.
Meddai prif arolygydd Estyn, Ann Keane: “Mae llawer o resymau pam y gall dysgwyr gael eu hatal rhag gwneud cais am brentisiaeth, er nad yw rhai o’r materion bob amser yn arbennig i grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig.
‘Hybu ymwybyddiaeth’
“Er bod darparwyr dysgu yn y gwaith yn gyffredinol yn ymwybodol o’r rhwystrau hyn. Mae mwy sydd angen ei wneud i hybu ymwybyddiaeth o brentisiaethau ymhlith pob dysgwr ac i ymgysylltu ag unigolion o grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, unigolion ag anableddau ac unigolion o ddau ryw fel eu bod yn gallu ystyried a fyddent yn elwa o brentisiaeth.”
Mae’r arolwg yn tynnu sylw at nifer o argymhellion, gan gynnwys y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod cyflogwyr yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael iddynt wrth gymryd prentisiaid ag anghenion penodol a’u bod yn gweithio gyda darparwyr i ddatblygu eu cydraddoldeb ac amrywiaeth polisïau.
Hefyd, dylai darparwyr dysgu yn y gwaith weithio’n agosach gydag ysgolion, cyflogwyr ac arweinwyr cymunedol i wella ymwybyddiaeth o’r hyn prentisiaethau i’w gynnig.