Mae bachgen 12 oed wedi marw ar ôl i blismon yn yr Unol Daleithiau ei saethu yn dilyn adroddiadau bod ganddo wn mewn parc yn Cleveland.
Nid oedd y bachgen wedi bygwth yr heddlu nac wedi anelu’r gwn atyn nhw ond roedd wedi tynnu’r gwn o’i boced pan ofynnwyd iddo i godi ei ddwylo.
Cafodd ei saethu ddwywaith. Bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Roedd y dyn a ffoniodd yr heddlu i adrodd am y digwyddiad wedi dweud nad oedd yn sicr a oedd y gwn yn un ffug ai peidio ond mae’n debyg nad oedd y wybodaeth wedi cael ei roi i’r swyddogion aeth i’r parc.
Dywedodd Timothy Kucharski, cyfreithiwr ar ran teulu’r bachgen, ei fod wedi mynd i’r parc gyda’i ffrindiau bnawn ddoe ond nad oedd yn gwybod y manylion ynglŷn â beth arweiniodd at y saethu.
Mae’n bwriadu holi llygad-dystion er mwyn cael rhagor o ffeithiau, meddai.