Nasser ac Aseel Muthana o Gaerdydd sydd wedi ymuno a IS yn Syria
Mae pennaeth gwrth-frawychiaeth Prydain wedi rhybuddio na all yr heddlu a’r gwasanaethau diogelwch yn unig fynd i’r afael a brawychwyr treisgar.
Wrth lansio ymgyrch gwrth-frawychiaeth cenedlaethol, dywedodd dirprwy Gomisiynydd Heddlu’r Metropolitan Mark Rowley bod yr awdurdodau wedi amharu ar sawl cynllwyn i gynnal ymosodiad brawychiaeth ac wedi arestio 271 o bobl.
Ond fe rybuddiodd na all yr heddlu ac asiantaethau eraill fynd i’r afael a’r bygythiad ar eu pen eu hunain ac mae’n galw ar y cyhoedd a busnesau i’w cynorthwyo.
Wrth drafod brawychwyr dywedodd Mark Rowley: “Nid ydyn nhw bellach yn dod o wledydd fel Irac ac Afghanistan yn unig, ymhell o feddyliau’r cyhoedd.
“Maen nhw bellach yn ein cymunedau ac yn cael eu radicaleiddio gan ddelweddau a negeseuon maen nhw’n eu darllen ar wefannau cymdeithasol, ac yn barod i ladd dros yr achos.”
Yn gynharach eleni daeth i’r amlwg bod tri o Gaerdydd – Nasser Muthana, 20, a’i frawd Aseel, 17, a’u ffrind Reyaad Khan, 21, wedi teithio i Syria i ymuno a’r Wladwriaeth Islamaidd (IS).
Fe fydd nifer o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal yr wythnos hon a bydd swyddogion yn cwrdd â 6,000 o bobl mewn 80 o leoliadau gan gynnwys ysgolion, prifysgolion, meysydd awyr, canolfannau siopa, sinemâu a ffermydd.
Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May hefyd gyhoeddi cyfres o fesurau i dynhau diogelwch yn y DU yn sgil rhybuddion byd bygythiad o ymosodiad yn y DU yn cynyddu.