John Kerry yn rhan o' trafodaethau gydag Iran.
Mae’n bosib bydd trafodaethau ar raglen niwclear Iran yn mynd tu hwnt i ddydd Llyn, sef diwrnod olaf y cyfarfod.
Dros y penwythnos yn Vienna mae dirprwyaeth o Iran wedi bod yn trafod eu rhaglen niwclear gyda’r Unol Daleithiau’r America, Rwsia, Tsiena, y Deyrnas Unedig, Ffrainc a’r Almaen.
Mae Iran yn awyddus gweld sancsiynau sy’n cosbi’r wlad yn cael eu codi.
Angen Cytundeb
Yn ôl Iran, creu egni yw’r rheswm dros ddatblygu eu rhaglen niwclear. Tra bod rhai gwledydd yn ofnus eu bod am greu bom.
Dywedodd aelod o’u dirprwyaeth eu bod yn ystyried ymestyn y cyfarfod er mwyn cyrraedd “cytundeb gwleidyddol cyffredinol.”
Roedd John Kerry, Ysgrifennydd Gwladol Unol Daleithiau’r America, yn dweud eu bod yn gweithio’n galed i “bontio’r gwagle” rhwng safbwyntiau’r ochrau.
John Kerry yn rhan o'r trafod gydag Iran.