Nathan Gill ASE UKIP
Mae AS Ewrop UKIP Cymru, Nathan Gill, yn dweud bydd ei blaid yn targedu nifer o seddau yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol yn mis Mai 2015.

Yn ôl Nathan Gill o Langefni ar Ynys Môn, Delyn, Alun a Dyfrdwy a Merthyr Tudful yw prif dargedau UKIP ar hyn o bryd.

Daw ei sylwadau ar ôl llwyddiant ei blaid yn isetholiad Rochester a Strood, lle cipiodd UKIP y sedd oddi ar y Ceidwadwyr.

Un neges i bawb

Dywedodd Nathan Gill ar raglen Sunday Politics fod neges UKIP yn taro tant gyda chefnogwyr y pleidiau eraill.

Meddai: “Mae arweinwyr y pleidiau eraill yn ymosod arnom ni yn ddi-baid, maen nhw o hyd yn sôn am UKIP.”

“Maen nhw’n gyd ein hofn ni.

“Mae hynny oherwydd ein neges. Does dim rhaid i ni newid ei neges wrth fynd i stad cyngor neu yn cerdded lawr llwybr hir i dŷ moethus.

“Rydym yn rhoi’r un neges i bawb.”

Llwyddiant Rochester

Cafodd yr isetholiad ei gynnal ar ôl i Mark Reckless gyhoeddi ei bod yn gadael y Ceidwadwyr.

Enillodd y sedd fel ymgeisydd UKIP gyda 16,867 o bleidleisiau – 2,920 yn fwy na’r Ceidwadwyr.

Mae rhai ar Ynys Môn yn disgwyl bydd Nathan Gill yn penderfynu herio AS Llafur yr ynys, Albert Owen, ym mis Mai.