Mae’r cyfarwyddwr ffilm o America, Mike Nichols wedi marw’n 83 oed.

Roedd yn fwyaf adnabyddus am gyfarwyddo The Graduate, Angels in America a Spamalot gan griw Monty Python.

Roedd yn briod â chyflwynydd newyddion ABC, Diane Sawyer.

Dechreuodd ei yrfa fel comedïwr, gan ennill gwobrau Academy, Grammy, Tony ac Emmy.

Cyfarwyddodd ei ffilm gyntaf, ‘Who’s Afraid of Virginia Woolf?’ yn 1966, un o’r ffilmiau oedd yn serennu Richard Burton ac Elizabeth Taylor.

Daeth ei awr fawr yn 1967, pan enillodd Oscar am gyfarwyddo ‘The Graduate’, y ffilm a ddaeth â Dustin Hoffman i amlygrwydd.

Yn ystod ei yrfa, cydweithiodd â llu o sêr eraill yn Hollywood, gan gynnwys Jack Nicholson, Meryl Streep, Al Pacino, Gene Hackman, Robin Williams, Harrison Ford, Melanie Griffith, Sigourney Weaver, Tom Hanks, Julia Roberts ac Emma Thompson.

Enillodd naw gwobr Tony am ei waith ar lwyfannau Broadway, gan gynnwys addasiad o sioe Monty Python, Spamalot.

Cafodd ei eni yn yr Almaen yn 1931 ac fe fu’n rhaid i’w deulu ffoi i’r Unol Daleithiau rhag y Natsïaid.