Jerwsalem
Mae addolwyr Iddewig wedi dychwelyd i synagog yn Jerwsalem lle cafodd pedwar o bobol eu lladd yn dilyn ymosodiad ddoe.

Cafodd tri Americanwr ac un Prydeiniwr eu lladd yn yr ymosodiad gan ddau ddyn o Balesteina yn ardal Har Nof yn ystod gweddïau’r bore.

Bu farw plismon o’i anafiadau’n ddiweddarach.

Cafodd pump o bobol eraill eu hanafu.

Cafodd y ddau ddyn eu saethu’n farw gan yr heddlu.

Ymatebodd y Prif Weinidog, Benjamin Netanyahu drwy ddweud bod yr ymosodiad yn “lofruddiaeth greulon o Iddewon oedd wedi dod i weddïo”.

Dywedodd ei fod yn gweld bai ar y grŵp Hamas ac Arlywydd Palesteina, Mahmoud Abbas am ddylanwadu ar y brawychwyr.

Ond am y tro cyntaf ers peth amser, cafodd yr ymosodiad ei feirniadu gan Abbas.

Yn y cyfamser, mae swyddogion diogelwch yn Israel wedi chwalu cartref dyn o Balesteina oedd wedi lladd dau o bobol ar blatfform trenau yn Jerwsalem ym mis Hydref.

Dywedodd Netanyahu y byddai Israel yn gweithredu’n llym yn erbyn ymosodiadau o’r fath.