Mae dynes 19 oed gafodd ei heintio gyda ffliw’r adar wedi marw yn yr Aifft, yr ail achos angheuol o’r firws H5N1 yn y wlad eleni.
Roedd y ddynes yn cadw ieir yn ei chartref yn ninas Assiut, ac fe gafodd ei chludo i’r ysbyty ar 10 Tachwedd, yn ôl y swyddog iechyd Ahmed Abdel-Hamid.
Ers 2006, mae 64 o bobol wedi marw o ffliw’r adar ac mae’r rhan fwyaf o achosion wedi eu cysylltu ag ieir.
Mae saith achos wedi cael eu cofnodi yn y wlad eleni gyda’r rhan fwyaf o’r cleifion yn ferched a phlant.
Daw wrth i Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) ym Mhrydain gadarnhau bod o leiaf un achos o’r firws wedi cael ei gofnodi ar fferm yn ardal Driffield, yn nwyrain Swydd Efrog.
Ond mae DEFRA wedi dweud bod y risg i iechyd y cyhoedd yn “isel iawn”, er eu bod nhw wedi penderfynu difa’r holl adar ar y fferm.