Mae cyfres o ffrwydriadau yn ninas Baghdad wedi lladd beth bynnag bump o bobol, ac anafu 20.

Fe ffrwydrodd y bom cynta’ ger swyddfa’r heddlu yn ardal Radwaniya ym mhrifddinas Irac – ardal lle mae nifer fawr o’r brodorion yn Fwslimiaid Sunni. Fe laddwyd dau blismon ac fe anafwyd pump o bobol yn yr ymosodiad hwnnw.

Ond mae adroddiadau o fom yn ffrwydro ar ymyl ffordd brysur hefyd yn ardal fasnachol Hay Jami’a o Baghdad, lle lladdwyd tri o bobol ac yr anafwyd naw.

Ger Maes Awyr Rhyngwladol Baghdad, mae heddlu lleol yn dweud i fom car ffrwydro mewn maes parcio, gan anafu pump o bobol a gwneud difrod mawr i geir oedd wedi’u parcio yno. Mae gwrthryfelwyr sy’n perthyn i’r grwp Islamic State wedi hawlio cyfrifoldeb am yr un ymosodiad hwn, gan ddweud mai ceisio targedu Americanwyr yr oedden nhw.