Mae seren bêl-droed Cymru, Gareth Bale, wedi dweud mai mynd â’i wlad i rowndiau terfynol pencampwriaeth ryngwladol fyddai pinacl ei yrfa.

Ac fe ddywedodd hefyd ei fod yn credu bod gan y wlad gyfle gwirioneddol wrth iddyn nhw wynebu Gwlad Belg yn rowndiau rhagbrofol Pencampwriaeth Ewrop heno.

Fe fyddai mynd gyda Chymru i rowndiau terfynol am y tro cynta’ ers 1958 yn cymharu gydag ennill Cwpan Pencampwyr Ewrop gyda Real Madrid, meddai Bale.

Beirniadaeth ar Giggs

Ac, wrth siarad gyda’r BBC cyn y gêm, fe bwysleisiodd pa mor bwysig oedd chwarae i Gymru iddo – mae rhai cefnogwyr wedi poeni na fydd yn chwarae mor aml ers ymuno â Real.

Fe fu beirniadaeth hefyd ar ei ragflaenydd disglair, Ryan Giggs, am fod ei ymddangosiadau tros Gymru mor brin.

Ond, yn ôl Gareth Bale, roedd wastad yn edrych ymlaen at “ddod yn ôl” i chwarae i Gymru.