Mae teyrngedau wedi’u rhoi i un o hyfforddwyr gorau byd rasio ceffylau, Dessie Hughes, wedi ei farwolaeth yn 72 oed.
Roedd y joci a ddaeth wedyn yn hyfforddwr, gan fwynhau llwyddiant yn y Cheltenham Festival Champion Hurdle yn 1979 ac wedyn yn 2004 a 2005, wedi bod yn ymladd salwch.
Roedd yn hyfforddi ceffylau yn Osborne Lodge ar y Curragh yn County Kildare, Iwerddon.
Mae’n gadael gwraig a merch, ynghyd a mab, Richard, sydd hefyd yn joci.