Mae economi mwya’ Ewrop wedi tyfu 0.1% yn ystod trydydd chwarter y flwyddyn hon.
Oherwydd bod teuluoedd yn gwario mwy a chwmnïau yn allforio mae’r Almaen wedi osgoi dirwasgiad.
Yn yr un cyfnod mae economi Ffrainc wedi tyfu 0.3% .
Bu pryderon bod Ewrop yn wynebu trafferthion economaidd, ond mae prisiau trydan is a’r ffaith fod yr Ewro yn wan wedi hybu economi’r Almaen.